Neidio i Gynnwys

Rydym ni, a'n partneriaid, yn gosod cwcis a chasglu gwybodaeth o'ch porwr i roi cynnwys gwefan i chi a deall cynulleidfaoedd gwe. Gweler ein polisi preifatrwydd i ddysgu mwy am sut rydym yn rheoli eich data a'ch hawliau. Gweler ein polisi cwcis i ddeall sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnoleg olrhain.

I gytuno i'n defnydd o gwcis, cliciwch
Os nad ydych yn cytuno â’n defnyddo o gwcis, cliciwch
Neidio i Gynnwys

 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoddus Torfaen
Cysylltwch â Ni English

Lawrlwythwch gopi o Gynllun Llesiant Torfaen 2018 - 2023 yma

  • Amdanom Ni
  • Newyddion
  • Y Ddeddf Llesiant
  • Yr Asesiad Llesiant
  • Cynllun Llesiant
  • Cymryd Rhan
  • Amdanom Ni
  • Newyddion
  • Y Ddeddf Llesiant
  • Yr Asesiad Llesiant
  • Cynllun Llesiant
    • Cynnydd Monitro
    • Adroddiad Blynyddol (2018-2019)
    • Adroddiad Blynyddol (2019-2020)
    • Adroddiad Blynyddol Blwyddyn 3 (2020-2021)
  • Cymryd Rhan

Cynllun Llesiant

Cadarnhaodd Asesiad o Les Torfaen rai pethau yr oeddem yn gwybod amdanynt eisoes ac amlygwyd rhai meysydd y mae angen archwilio iddynt ymhellach: Beth yw'r broblem mewn gwirionedd a sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i newid neu wella'r sefyllfa.

Mae'r cynllun llesiant cyntaf hwn ar gyfer Torfaen wedi'i lunio drwy ddefnyddio gwybodaeth o'r asesiad a'r hyn y mae pobl sy'n byw a gweithio yn Nhorfaen wedi dweud wrthym.

Rydyn ni'n gwybod bod angen i ni newid sut yr ydym yn cydweithio ac rydym eisoes yn cynllunio ar gyfer hyn - i wella'n dulliau rhannu gwybodaeth, rhannu pobl, rhannu risg, fel y gallwn wneud y gorau o'r adnoddau sydd gennym ar draws ein gwasanaethau.

Gwnaethom wirio ein Cynllun drafft gyda’n dinasyddion a busnesau rhwng 16eg o Hydref 2017 a 7fed o Ionawr 2018.

Mae'r cynllun yn nodi 7 amcan llesiant, y meysydd yr ydym am weithio arnynt gyda'n gilydd a gyda chi, ein dinasyddion, i wella llesiant ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae llawer o'r gwaith hwn yn ymwneud â'r cenedlaethau a gall gymryd 25 i 30 mlynedd ond mae angen inni ddechrau rhywle. Credwn mai'r meysydd ar gyfer camau gweithredu lefel uchel a nodir yn y cynllun yw'r ffordd ymlaen a nodwn yr hyn y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn y tymor byr, canolig a hirdymor.

Lawrlwythwch gopi o Gynllun Llesiant Torfaen 2018 - 2023 yma.​

Lawrlwythwch gopi o’r Cynllun Llesiant i Dorfaen 2018 - 2023 Hawdd ei Ddarllen yma.

Ewch i’r dudalen Monitro Cynnydd i weld ein hadroddiadau blynyddol.

© Copyright 2022 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | Hysbysiad Preifatrwydd | Polisi Cwcis | Hygyrchedd