Neidio i Gynnwys

Rydym ni, a'n partneriaid, yn gosod cwcis a chasglu gwybodaeth o'ch porwr i roi cynnwys gwefan i chi a deall cynulleidfaoedd gwe. Gweler ein polisi preifatrwydd i ddysgu mwy am sut rydym yn rheoli eich data a'ch hawliau. Gweler ein polisi cwcis i ddeall sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnoleg olrhain.

I gytuno i'n defnydd o gwcis, cliciwch
Os nad ydych yn cytuno â’n defnyddo o gwcis, cliciwch
Neidio i Gynnwys

 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoddus Torfaen
Cysylltwch â Ni English

Lawrlwythwch gopi o Gynllun Llesiant Torfaen 2018 - 2023 yma

  • Amdanom Ni
  • Newyddion
  • Y Ddeddf Llesiant
  • Yr Asesiad Llesiant
  • Cynllun Llesiant
  • Cymryd Rhan
  • Amdanom Ni
  • Newyddion
  • Y Ddeddf Llesiant
  • Yr Asesiad Llesiant
  • Cynllun Llesiant
  • Cymryd Rhan

Yr Asesiad Llesiant

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen wedi cwblhau ei asesiad llesiant cyntaf gan edrych ar gymunedau lle mae pobl yn byw a gweithio, yn ogystal â llesiant y bobl. Mae'r asesiad yn edrych ar les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol; mae peth o'r wybodaeth ar lefel fwrdeistref gyfan ac mae rhai ar gyfer prif aneddiadau Blaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân neu ar lefel cymunedau llai. Mae'r Bwrdd wedi gweithio gydag ystod eang o sefydliadau cyhoeddus, dros 2,000 o drigolion a 31 o fusnesau wrth gasglu gwybodaeth a gwirio barn a dyheadau.

Nid yw'r asesiad yn ymarfer untro fydd yn cael ei ailadrodd bob 5 mlynedd, ond, byddwn yn ychwanegu ato ac yn ei ddiweddaru wrth i ystadegau newydd a gwybodaeth ddod i'r amlwg.

Mae'r asesiad hwn wedi cael ei ddefnyddio gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddatblygu ei Gynllun Llesiant cyntaf, i'w gyhoeddi ym Mai 2018. Dylai'r gwasanaethau cyhoeddus unigol hefyd ddefnyddio'r asesiad i osod eu nodau llesiant eu hunain a'u cynlluniau corfforaethol yn y dyfodol.

Mae'r asesiad yn nodi cyflwr llesiant yn Nhorfaen, ac yn nodi meysydd allweddol lle mae angen i wasanaethau cyhoeddus weithredu ar y cyd, a chydag eraill, i wella llesiant sy'n gweithio gyda chryfderau ein cymunedau, ac sy'n helpu i adeiladu arnynt, a'r bobl sy'n byw yno.

Mae hefyd yn adeiladu ar ein dealltwriaeth o sut y bydd llesiant yn fwyaf tebygol o ddatblygu yn y dyfodol a sut y gallai fod angen i ni newid ein dulliau i ymateb mewn ffordd ystyrlon i heriau fel gwahaniaethau cymdeithasol ac economaidd, poblogaeth sy'n heneiddio, anghydraddoldeb iechyd, bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol, a newid yn yr hinsawdd.

Bydd y ffyrdd y byddwn ni'n ymateb ar y cyd i'r heriau hirdymor hyn yn effeithio ar les yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae’r dogfennau canlynol ar gael i’w lawr lwytho:

  • Crynodeb Gweithredol Gwerthusol
  • Rhan 1 - Asesiad Llesiant Torfaen
  • Rhan 2 - Llesiant Blaenafon a’i chymunedau
  • Rhan 3 - Llesiant Pont-y-pŵl a’i chymunedau
  • Rhan 4 - Llesiant Cwmbrân a’i chymunedau
  • Rhan 5 - Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gwent - Terfynol – Chwe. 2017
  • Atodiad 1 - Canlyniadau Arolwg yr Holiadur Llesiant
  • Atodiad 2 - Y Sawl a fynychodd y Gweithdy
  • Atodiad 3 - Dadansoddiad o’r Nodau Llesiant
  • Atodiad 4 - Crynodeb o’r Heriau Llesiant Allweddol

Grŵp Cymorth y Swyddogion Partneriaeth

Mae'r Grŵp Cymorth Swyddogion (GCS) yn gwneud gwaith ar ran y BGC i archwilio canfyddiadau'r asesiad, awgrymu amcanion llesiant, nodi meysydd ar gyfer gweithgarwch a drafftio cynlluniau llesiant.

Gallwch weld yr aelodau ar y dudalen Partneriaethau.

Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i ddarparu, mewn ymateb i asesiad anghenion poblogaeth. Rhaid i gynlluniau ardal gynnwys y gwasanaethau penodol a gynllunnir mewn ymateb i bob un o’r thema craidd a nodir yn yr asesiad poblogaeth. Fel rhan o hyn, mae'n rhaid i gynlluniau ardal gynnwys:

  • y gweithredoedd y bydd partneriaid yn eu cymryd mewn perthynas â meysydd integreiddio blaenoriaeth ar gyfer Byrddau Partneriaeth Ranbarthol;
  • achosion a manylion cronfeydd cyfun i'w sefydlu mewn ymateb i'r asesiad poblogaeth;
  • sut y caiff gwasanaethau eu caffael neu eu trefnu i'w darparu, gan gynnwys modelau cyflenwi amgen;
  • manylion y gwasanaethau ataliol a ddarperir neu a drefnir;
  • camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth; a
  • camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhaid i'r cynlluniau ardal gyntaf gael eu cyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2018 a bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau bod cysylltiadau rhwng y Cynllun Ardal a Chynlluniau Lles yr awdurdod lleol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i hwyluso cydweithio ac osgoi dyblygu.

Gellir dod o hyd i’r Cynllun Ardal ar gyfer Gwent yn www.bprgwent.cymru

Cynlluniau BGC eraill

Mae Strategaeth Cynhwysiant Ariannol y BGC yn nodi sut y mae’r BGC yn cydweithio i fynd i’r afael â thlodi yn Nhorfaen.

Mae gan y BGC gynllun partneriaeth presennol dan y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru. Mae’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn - Cam 3: Cynllun Cyflawni Torfaen ar gyfer Heneiddio’n Dda (2015 – 2023) yn cefnogi’r nodau llesiant ac agenda’r BGC i wella llesiant pobl yn Nhorfaen.

© Copyright 2022 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | Hysbysiad Preifatrwydd | Polisi Cwcis | Hygyrchedd