Cymorth
Uned Cymorth Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae’r Uned hon yn cynnwys swyddogion gydag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad i gynorthwyo’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mhob un o’i weithgareddau.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy’n cynnal yr Uned ond mae’r adnoddau ar gael i bob corff partner. Maent yn cynnig gwasanaethau a chymorth ar:
- Ymchwil a dadansoddi data
- Cyfranogiad ac ymgysylltiad ar draws gwasanaethau, cyfundrefnau a gyda’r cyhoedd
- Cynllunio a datblygu polisi
- Casglu a rhannu gwybodaeth, gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol
- Cyfathrebu a gwefannau
- Diogelwch cymunedol
- Camddefnyddio sylweddau
Bydd BGC Torfaen yn gweithio gyda'i gilydd i newid ymddygiad a diwylliant mewn sefydliadau cyhoeddus, felly gyda'n gilydd, gallwn wella lles y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Cynllun Lles 2018 -2023.