Amdanom Ni
Sefydlwyd byrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ar 1 Ebrill 2016 o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf), gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardal yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud hi'n ofyniad statudol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru gynnal asesiadau llesiant ar gyfer eu hardal ar gylch 5 mlynedd a defnyddio'r asesiadau hyn i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau llesiant fydd yn cyfrannu at gyflawni 7 nod llesiant Llywodraeth Cymru. Mae mwy o wybodaeth i’w chael dan yr adrannau ar gyfer y Ddeddf Llesiant a Chynllunio ar y Cyd.
Mae gan y bwrdd bedwar sefydliad sy'n aelodau statudol (sy’n ofynnol yn ôl y Ddeddf):
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae partneriaid eraill wedi derbyn gwahoddiad ac ymuno â BGC Torfaen:
- Heddlu Gwent
- Comisiynydd Heddlu a Throseddau Gwent
- Gwasanaeth Prawf a Charchardai EM
- Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Gweinidogion Cymru
- Tai Cymunedol Bron Afon
- Cartrefi Melin
- Cynghrair Wirfoddol Torfaen
- Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen
- Cynghorau Tref a Chymuned Torfaen
- Senedd Ieuenctid Cymru
- Senedd Ieuenctid y DU
Gellir dod o hyd i restr lawn o’r aelodau ar dudalen Pwy ydym ni?.
Cylch Gorchwyl a Memorandwm Dealltwriaeth
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen wedi cytuno ar gylch gorchwyl (CG), sy’n gosod allan amcan, prosesau, gweithdrefnau, aelodaeth ac amlder cyfarfodydd.
Mae ‘r Bwrdd hefyd wedi cytuno ar femorandwm dealltwriaeth (MD) sy’n gosod allan sut fydd y Bwrdd yn gweithio gyda’i gilydd.